Iaith tagio

Iaith tagio
Mathsoftware component, data description language, data format Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enghraifft o iaith tagio Wicipedia. Mae'r golofn ar y chwith yn cynnwys y tagiau hyn a'r golofn ar y dde yn dangos yr hyn a welir ar y rhyngwyneb. Ceir nifer o ieithoedd tagio sydd wedi'i seilio ar XML ac yn aml, gellir eu newid i HTML, PDF ac RTF gan ddefnyddio iaith raglennu neu XSL.

Mewn prosesu testun cyfrifiadurol, mae iaith tagio (ar lafar: markup language) yn system ar gyfer anodi dogfen mewn modd hollol wahanol i gystrawen y testun sy'n weladwy i'r defnyddiwr (h.y. ar y rhyngwyneb). Datblygodd y syniad a'r derminoleg hyn wrth i bobl "farcio i fyny" o lawysgrifau papur, hy yn hytrach nag ysgrifennu'r cyfarwyddiadau gyda phensil glas ar lawysgrifau awduron, fel a wnaed yn draddodiadol, dechreuodd golygyddion ddefnyddio tagiau. Felly, yn y cyfryngau digidol, disodlwyd y cyfarwyddyd glas ar ochr y ddalen gan dagiau digidol." Fodd bynnag, holl bwrpas iaith tagio yw osgoi gwaith fformatio ar gyfer y testun, gan mai pwrpas y tagiau yn yr iaith farcio yw fformatio'r testun priodol (e.e. pennawd neu ddechrau paragraff ac ati). Mae gan bob tag a ddefnyddir eiddo god cysylltiedig sy'n fformatio'r testun a gaiff ei ysgrifennu.

Mae'r enghreifftiau o ieithoedd tagio'n cynnwys cyfarwyddiadau teiposod megis y rhai a geir yn troff, TeX a LaTeX, neu farciau strwythurol megis tagiau XML. Gwaith yr iaith tagio, mewn gwirionedd, yw rhoi set o gyfarwyddiadau i'r feddalwedd sy'n arddangos y testun, ond sy'n anweladwy i'r defnyddiwr terfynol (h.y. e person sy'n darllen y gwaith ar y rhyngwyneb cyhoeddus).

Mae rhai ieithoedd tagio'n cynnwys cystrawen a ddiffiniwyd ymlaen llaw e.e. HTML, ond mae ieithoedd eraill yn fwy cyffredinol eu pwrpas (e.e. XML), ac wedi hepgor hyn.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy